Newyddion

Diolch

Annwyl Breswylydd Treorci, Cwmparc ac Ynyswen,

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi am fy nghefnogi yn etholiad diweddar y Senedd, lle cefais fy ethol i Senedd Cymru i wasanaethu Afan Ogwr Rhondda, ochr yn ochr â fy nghydweithwyr Plaid Cymru, Alun Cox ac Elyn Stephens.

Diolch i chi am eich holl eiriau caredig a'ch cefnogaeth. Mae’n anrhydedd enfawr i allu eich cynrychioli chi yn y Senedd, a gallaf eich sicrhau chi y byddaf yn gweithio'n galed ac yn eich cynrychioli hyd eithaf fy ngallu.

Mae eich gwasanaethu chi, trigolion Treorci, Cwmparc ac Ynyswen fel Cynghorydd dros y Ward am y 18 mlynedd diwethaf wedi bod yn un o anrhydeddau mwyaf fy mywyd ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymddiriedaeth a'r gefnogaeth y mae'r gymuned wedi'i rhoi ynof yn ystod yr amser hwn. Rydym wedi cyflawni llawer; o adfer gwasanaethau bysiau, i wella ffyrdd, ac o gefnogi dioddefwyr llifogydd i gael effaith gadarnhaol ar wasanaethau iechyd ac addysg. Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â fy Nghyd-gynghorwyr Plaid Cymru a chynifer o unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gael effaith bositif ar ein cymuned.

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud trefniadau nawr i ethol Cynghorydd newydd ar gyfer y Ward. Mae gennym ymgeisydd rhagorol dros Blaid Cymru sef Richard Clarke, sydd wedi gweithio'n ddiflino ac yn egnïol yn ein cymuned ar lawer o ymgyrchoedd lleol. Rwy'n falch iawn o gefnogi Richard, a bydd ef a finnau'n eich cefnogi i gyflawni'r gorau i'n cymuned leol. Byddwn yn dîm cryf, unedig a lleol ar gyfer Cwmparc, Treorci ac Ynyswen.

Rwy'n gobeithio sefydlu fy swyddfa cyn gynted â phosibl a byddaf yn rhannu manylion pellach gyda chi cyn gynted â phosibl.

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth.

Sera Evans AS

ON Os ydych chi eisiau cysylltu, gallwch anfon e-bost ataf: [email protected]

Hyrwyddwyd gan Darren Jones, Plaid Cymru, Tŷ Gwynfor, Llys Anson, Caerdydd, CF10 4AL ar ran Richard Clarke, Treorci.

  • Diolch

  • Cefnogi Teuluoedd

    💡Ydych chi'n gwybod?
    Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno rhaglen gofal plant gyffredinol - y mwyaf cynhwysfawr i Gymru erioed, a'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU.
  • Pol newydd - newyddion da!

    poll2.jpg

    Roedd Pôl YouGov yr wythnos hon yn anrheg wych ar gyfer y flwyddyn newydd, ond dyna'n unig ydyw: pôl. Bydd angen eich help a'ch cefnogaeth i'w throi'n realiti.
    Mae gennym gyfle gwirioneddol o sicrhau TRI sedd yn Afan Ogwr Rhondda. Mae'r polau piniwn yn awgrymu y gallai cyn lleied â 500 o bleidleisiau ychwanegol ein cael ni dros y llinell, gan ethol Sera Evans, Alun Cox, ac Elyn Stephens ac atal Reform UK rhag ennill y chweched sedd.

    Un Aelod Senedd Plaid Cymru ychwanegol ac un yn llai o Reform, yn sefyll dros Gymru a phobl Afan Ogwr Rhondda.

    Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai cael tri chynrychiolydd etholedig ei wneud i bobl Afan Ogwr Rhondda?

    Byddai hyd yn oed awr o'ch amser yn gwneud gwahaniaeth, ac nid oes rhaid i chi guro ar ddrysau; bydd postio llenyddiaeth etholiad trwy 70,000 o flychau llythyrau yn cymryd cryn dipyn o ymdrech.

    Anfonwch e-bost at [email protected] i roi gwybod i ni os gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd, a chofrestrwch ar gyfer grŵp WhatsApp ymgyrch Afan Ogwr Rhondda.

  • Ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Afan Ogwr Rhondda yn gwrthwynebu colli swyddi a thoriadau ynni gwyrdd

    Mae ymgeiswyr Senedd Afan Ogwr Rhondda, Sera Evans, Alun Cox ac Elyn Stephens wedi eu syfrdanu a’u digio gan y newyddion bod cannoedd o swyddi i’w colli yn y Rhondda oherwydd bod City Energy Group, perchennog Consumer Energy Solutions, yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

    Mae'r grŵp wedi dweud bod yr ailstrwythuro arfaethedig a'r colli swyddi yn ganlyniad i Lywodraeth y DU yn dod â chynllun ynni ECO4 i ben, cynllun yr oedd yn ei weithredu.
    Mae'r fenter, a helpodd berchnogion tai i arbed ar fesurau i wella’r defnydd o ynni yn y cartref fel insiwleiddio, paneli solar a phympiau gwres, yn mynd i ddod i ben eleni.

  • Trafnidiaeth Ysgolion

    Mae tîm Plaid Cymru Afan Ogwr Rhondda yn cefnogi rhieni a gofalwyr sy’n ymgyrchu yn erbyn toriadau Cyngor Rhondda Cynon Taf i gludiant rhwng y cartref a’r ysgol . Yn ddiweddar, mae’r cyngor wedi tynnu cludiant i’r ysgol oddi ar rhai plant yn y fwrdeistref sirol.

    Mae’r ymgyrch ddwys hon gan rieni, gofalwyr, a chyngorwyr y gwrthbleidiau yn parhau. Mae’n rhaid i blant ysgol a'u rhieni a gofalwyr nawr naill ai drefnu cludiant preifat i'r ysgol neu gerdded ym mhob tywydd. Mae’r tywydd gwael diweddar wedi arwain at ddiflastod a salwch, ac wedi golygu presenoldeb is ar gyfer rhai disgyblion.

    Mae Sêra Evans, ymgeisydd arweiniol Plaid Cymru Afan Ogwr Rhondda ar gyfer etholiad y Senedd, wedi bod yn ymgyrchu ochr yn ochr â rhieni, gofalwyr a disgyblion. Gwrandewch ar un o'i hareithiau i gyfarfodydd y Cyngor yma: 

    Sera yn siarad mewn cyfarfod o'r cyngor 

    Fe wnaeth ein tîm o ymgeiswyr gyfarfod ag ymgyrchwyr yn eu cyfarfod ym Mhontypridd:

    Ein ymgeiswyr yn cwrdd ag ymgyrchwyr

    Meddai tri prif ymgeisydd Plaid Cymru yn Afan Ogwr Rhondda, Sêra Evans, Alun Cox ac Elyn Stephens: 

    “Mae addysg yn hanfodol i'n pobl ifanc, ac er bod Cyngor RhCT wedi buddsoddi mewn adeiladau ysgol, bydd y ffaith eu bod nhw’n tynnu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol oddi ar ddisgyblion yn sicr o arwain at waethygu presenoldeb a llesiant. Mae’n rhaid i ni ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i blant fynd i'r ysgol a dysgu, nid gosod rhwystrau o’u blaenau. Rydyn ni'n ymwybodol bod rhieni a gofalwyr yn ardal Bwrdeisdref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymladd ymgyrch debyg dros degwch mewn cludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Ryn ni’n cydsefyll gyda nhw hefyd.”

    Mae Plaid Cymru yn ymgyrchu ar nifer o bynciau sy'n bwysig i bobl yn ein cymunedau ni.

    Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o'n mudiad dros newid er gwell.

    Cliciwch yma: Ymaelodi â Phlaid Cymru - Plaid Cymru