Mae Plaid Cymru Afan Ogwr Rhondda yn gwrthwynebu datblygiad arfaethedig Adweithydd Modiwlar Bach ar safle cyn-orsaf bwêr glo Llynfi ar gyrion Maesteg. Mae’r datblygwr, Last Energy, yn bwriadu hybu’r dechnoleg hon, sydd heb ei phrofi, ar y safle er gwaetha pryderon y cymunedau a gaiff eu heffeithio.
Mae Plaid Cymru’n gwrthwynebu’r datblygiad oherwydd:
- nid yw’r dechnoleg wedi cael ei phrofi: dim ond dwy ffatri (yn China a Rwsia) sy’n gweithredu gan ddefnyddio’r dechnoleg hon drwy’r byd i gyd
- mae’r dechnoleg hyd yn oed yn ddrutach na’r dechnoleg bresennol ar gyfer cynhyrchu pwêr niwclear ar raddfa fawr, sydd eisioes yn elwa o gymhorthdaliadau sylweddol
- mae pryderon ynglŷn â diogelwch y gweithfeydd eu hunain ac am leihau a/neu gael gwared ar fesurau diogelwch
- mae pryderon pellach y bydd llai o diogelwch ar y safle yn gallu golygu siawns uwch o dargedu anghyfreithlon
- does dim ateb technolegol ar gael i’r broblem o storio gwastraff niwclear; mae’n fwy na thebyg y bydd angen ei storio ar y safle neu ei symud drwy’n pentrefi, gan achosi risgiau pellach i drigolion.
Os ydych chi’n cytuno â Phlaid Cymru, llofnodwch y ddeiseb