Diolch

Annwyl Breswylydd Treorci, Cwmparc ac Ynyswen,

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi am fy nghefnogi yn etholiad diweddar y Senedd, lle cefais fy ethol i Senedd Cymru i wasanaethu Afan Ogwr Rhondda, ochr yn ochr â fy nghydweithwyr Plaid Cymru, Alun Cox ac Elyn Stephens.

Diolch i chi am eich holl eiriau caredig a'ch cefnogaeth. Mae’n anrhydedd enfawr i allu eich cynrychioli chi yn y Senedd, a gallaf eich sicrhau chi y byddaf yn gweithio'n galed ac yn eich cynrychioli hyd eithaf fy ngallu.

Mae eich gwasanaethu chi, trigolion Treorci, Cwmparc ac Ynyswen fel Cynghorydd dros y Ward am y 18 mlynedd diwethaf wedi bod yn un o anrhydeddau mwyaf fy mywyd ac rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymddiriedaeth a'r gefnogaeth y mae'r gymuned wedi'i rhoi ynof yn ystod yr amser hwn. Rydym wedi cyflawni llawer; o adfer gwasanaethau bysiau, i wella ffyrdd, ac o gefnogi dioddefwyr llifogydd i gael effaith gadarnhaol ar wasanaethau iechyd ac addysg. Mae wedi bod yn fraint gweithio ochr yn ochr â fy Nghyd-gynghorwyr Plaid Cymru a chynifer o unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol i gael effaith bositif ar ein cymuned.

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud trefniadau nawr i ethol Cynghorydd newydd ar gyfer y Ward. Mae gennym ymgeisydd rhagorol dros Blaid Cymru sef Richard Clarke, sydd wedi gweithio'n ddiflino ac yn egnïol yn ein cymuned ar lawer o ymgyrchoedd lleol. Rwy'n falch iawn o gefnogi Richard, a bydd ef a finnau'n eich cefnogi i gyflawni'r gorau i'n cymuned leol. Byddwn yn dîm cryf, unedig a lleol ar gyfer Cwmparc, Treorci ac Ynyswen.

Rwy'n gobeithio sefydlu fy swyddfa cyn gynted â phosibl a byddaf yn rhannu manylion pellach gyda chi cyn gynted â phosibl.

Diolch am eich dealltwriaeth a'ch cefnogaeth.


Sera Evans AS


ON Os ydych chi eisiau cysylltu, gallwch anfon e-bost ataf: [email protected]

Hyrwyddwyd gan Darren Jones, Plaid Cymru, Tŷ Gwynfor, Llys Anson, Caerdydd, CF10 4AL ar ran Richard Clarke, Treorci.