Dim Niwclear yng Nghwm Llynfi - Cyfarfod Cyhoeddus Maesteg

Anti Nuclear flyer

Mynychodd Elyn Stephens AS y cyfarfod cyhoeddus ym Maesteg a chlywed y pryderon a godwyd gan drigolion lleol, yn enwedig ynghylch diogelwch, agosrwydd at yr ysgol leol, budd i'r gymuned, ac ansawdd y broses ymgynghori hyd yma.

Mae hi'n gweithio ochr yn ochr ag Alun Cox a Sera Evans (Aelodau Senedd eraill Plaid Cymru dros Afan Ogwr Rhondda), Friends of the Earth, CND ac eraill i godi ymwybyddiaeth o'r cynigion, gan sicrhau bod pobl leol yn deall beth sy'n cael ei gynnig ac yn cael cyfle i leisio eu barn.

[cliciwch i ddarllen mwy]

 

Bydd Elyn ac Aelodau eraill Plaid Cymru yn y Senedd yn parhau i ddilyn y cynnig yn agos wrth iddo symud drwy'r broses gynllunio.

Os hoffech ychwanegu eich enw at ddeiseb Plaid Cymru, gallwch ddod o hyd iddi drwy glicio yma.

Mae yna ddeiseb hefyd sy'n cael ei threfnu gan Friends of the Earth, ac os hoffech lofnodi honno hefyd, gallwch ddod o hyd iddi drwy glicio yma.