Sera Evans AS

 

Ganwyd Sera yng Nghwmparc ac mae hi bellach yn byw yn Nhreorci gyda'i dau fab. Yn gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac yn raddedig o Rydychen mewn ieithoedd modern ac ieithyddiaeth, mae hi'n gyfathrebwr medrus gyda hanes hir o sefyll dros gymunedau'r cymoedd.

Gwasanaethodd Sera bedwar tymor fel Cynghorydd Bwrdeistref Sirol dros Dreorci, Cwmparc ac Ynyswen. Cadeiriodd y Pwyllgor Craffu Addysg a Chynhwysiant a gwasanaethodd ar baneli allweddol yn ymdrin â chraffu, penodiadau llywodraethwyr a thlodi plant.

Mae ei phrofiad o gefnogi ei mab awtistig wedi ei gwneud yn eiriolwr cryf dros deuluoedd sy'n llywio anghenion dysgu ychwanegol.

Mae hi wedi helpu trigolion i sicrhau gwasanaethau bysiau, mynd i'r afael â phroblemau llifogydd a gwella mynediad at wasanaethau hanfodol.

Fel Aelod Senedd, bydd Sera yn hyrwyddo addysg, iechyd, cymorth cost byw, atal llifogydd, mynediad teg at wasanaethau a chynrychiolaeth gryfach i drigolion agored i niwed, wrth sefyll dros degwch i Gymru.