Ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Afan Ogwr Rhondda yn gwrthwynebu colli swyddi a thoriadau ynni gwyrdd

Mae ymgeiswyr Senedd Afan Ogwr Rhondda, Sera Evans, Alun Cox ac Elyn Stephens wedi eu syfrdanu a’u digio gan y newyddion bod cannoedd o swyddi i’w colli yn y Rhondda oherwydd bod City Energy Group, perchennog Consumer Energy Solutions, yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r grŵp wedi dweud bod yr ailstrwythuro arfaethedig a'r colli swyddi yn ganlyniad i Lywodraeth y DU yn dod â chynllun ynni ECO4 i ben, cynllun yr oedd yn ei weithredu.
Mae'r fenter, a helpodd berchnogion tai i arbed ar fesurau i wella’r defnydd o ynni yn y cartref fel insiwleiddio, paneli solar a phympiau gwres, yn mynd i ddod i ben eleni.

Dywedodd yr ymgeisydd Sera Evans,

“Mae torri cynllun ynni ECO4, i bob golwg heb gynllun newydd yn ei le, yn ddi-hid ac yn anghyfrifol. Dyw llawer o bobl ddim yn gallu fforddio byw mewn cartrefi sy’n effeithlon o ran ynni, ac eto mae dirfawr angen y mesurau hyn oherwydd cyflymder cynyddol newid hinsawdd.

“Fel ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Afan Ogwr Rhondda, rydym yn datgan ar goedd ein cefnogaeth i weithwyr Consumer Energy Solutions a’r sector ynni gwyrdd yn gyffredinol. Rydym ni’n credu bod gan y sector ran enfawr i’w chwarae yn ein hymdrechion i sicrhau dyfodol mwy gwyrdd ac i wneud cartrefi’n fwy effeithlon mewn cyfnod pan fo pris gwresogi wedi cynyddu i lefel sy’n anfforddiadwy i lawer.

“Rydym yn condemnio llywodraeth Lafur San Steffan am dorri cynllun ECO4 heb roi cynllun newydd yn ei le ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Consumer Energy Solutions ar yr adeg yma. Rydym hefyd yn galw am fuddsoddiad yn nyfodol seilwaith gwyrdd trwy lenwi’r bwlch ariannu nes i San Steffan ddod o hyd i ddewis arall yn lle cynllun ECO4. Dylai trigolion yng Nghymru allu cael hyder mewn ynni gwyrdd ac mae angen i Lywodraeth Cymru eu cefnogi trwy’r cyfnod hwn.

“All pobl y Rhondda ddim fforddio colli'r swyddi hyn ac maen nhw eisiau gweld cefnogaeth gref i'r sector ynni gwyrdd ac i Consumer Energy Solutions.”