Ymgyrchoedd

Cludiant rhwng y cartref a'r ysgol

Mae tîm Plaid Cymru Afan Ogwr Rhondda yn cefnogi rhieni a gofalwyr sy’n ymgyrchu yn erbyn toriadau Cyngor Rhondda Cynon Taf i gludiant rhwng y cartref a’r ysgol . Yn ddiweddar, mae’r cyngor wedi tynnu cludiant i’r ysgol oddi ar rhai plant yn y fwrdeistref sirol.

Mae’r ymgyrch ddwys hon gan rieni, gofalwyr, a chyngorwyr y gwrthbleidiau yn parhau. Mae’n rhaid i blant ysgol a'u rhieni a gofalwyr nawr naill ai drefnu cludiant preifat i'r ysgol neu gerdded ym mhob tywydd. Mae’r tywydd gwael diweddar wedi arwain at ddiflastod a salwch, ac wedi golygu presenoldeb is ar gyfer rhai disgyblion.

Mae Sêra Evans, ymgeisydd arweiniol Plaid Cymru Afan Ogwr Rhondda ar gyfer etholiad y Senedd, wedi bod yn ymgyrchu ochr yn ochr â rhieni, gofalwyr a disgyblion. Gwrandewch ar un o'i hareithiau i gyfarfodydd y Cyngor yma: 

Sera yn siarad mewn cyfarfod o'r cyngor

  • Cludiant rhwng y cartref a'r ysgol

  • Na i Adweithyddion Niwclear Modiwlar Bach, medd Plaid Cymru

    Mae Plaid Cymru Afan Ogwr Rhondda yn gwrthwynebu datblygiad arfaethedig Adweithydd Modiwlar Bach ar safle cyn-orsaf bwêr glo Llynfi ar gyrion Maesteg. Mae’r datblygwr, Last Energy, yn bwriadu hybu’r dechnoleg hon, sydd heb ei phrofi, ar y safle er gwaetha pryderon y cymunedau a gaiff eu heffeithio. 

  • Eich eilodau Seneddol

    Mae etholaeth Senedd Afan Ogwr Rhondda yn gyfuniad o ddwy etholaeth San Steffan, Aberafan Maesteg a Rhondda ac Ogwr, mae’n cael ei chynrychioli gan chwe Aelod o’r Senedd.

    Diolch i gefnogaeth pleidleiswyr ar draws yr etholaeth, mae tri o’r Aelodau Seneddol sy’n eich cynrychioli yn dod o Blaid Cymru.

    Dyma nhw:

    Sera Evans, Elyn Stephens, ac Alun Cox