Trafnidiaeth Ysgolion

Mae tîm Plaid Cymru Afan Ogwr Rhondda yn cefnogi rhieni a gofalwyr sy’n ymgyrchu yn erbyn toriadau Cyngor Rhondda Cynon Taf i gludiant rhwng y cartref a’r ysgol . Yn ddiweddar, mae’r cyngor wedi tynnu cludiant i’r ysgol oddi ar rhai plant yn y fwrdeistref sirol.

 

Mae’r ymgyrch ddwys hon gan rieni, gofalwyr, a chyngorwyr y gwrthbleidiau yn parhau. Mae’n rhaid i blant ysgol a'u rhieni a gofalwyr nawr naill ai drefnu cludiant preifat i'r ysgol neu gerdded ym mhob tywydd. Mae’r tywydd gwael diweddar wedi arwain at ddiflastod a salwch, ac wedi golygu presenoldeb is ar gyfer rhai disgyblion.

 

Mae Sêra Evans, ymgeisydd arweiniol Plaid Cymru Afan Ogwr Rhondda ar gyfer etholiad y Senedd, wedi bod yn ymgyrchu ochr yn ochr â rhieni, gofalwyr a disgyblion. Gwrandewch ar un o'i hareithiau i gyfarfodydd y Cyngor yma: 

Sera yn siarad mewn cyfarfod o'r cyngor 

Fe wnaeth ein tîm o ymgeiswyr gyfarfod ag ymgyrchwyr yn eu cyfarfod ym Mhontypridd:

Ein ymgeiswyr yn cwrdd ag ymgyrchwyr

Meddai tri prif ymgeisydd Plaid Cymru yn Afan Ogwr Rhondda, Sêra Evans, Alun Cox ac Elyn Stephens: 

“Mae addysg yn hanfodol i'n pobl ifanc, ac er bod Cyngor RhCT wedi buddsoddi mewn adeiladau ysgol, bydd y ffaith eu bod nhw’n tynnu cludiant rhwng y cartref a'r ysgol oddi ar ddisgyblion yn sicr o arwain at waethygu presenoldeb a llesiant. Mae’n rhaid i ni ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i blant fynd i'r ysgol a dysgu, nid gosod rhwystrau o’u blaenau. Rydyn ni'n ymwybodol bod rhieni a gofalwyr yn ardal Bwrdeisdref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymladd ymgyrch debyg dros degwch mewn cludiant rhwng y cartref a’r ysgol. Ryn ni’n cydsefyll gyda nhw hefyd.”

 

Mae Plaid Cymru yn ymgyrchu ar nifer o bynciau sy'n bwysig i bobl yn ein cymunedau ni.

 

Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o'n mudiad dros newid er gwell.


Cliciwch yma: Ymaelodi â Phlaid Cymru - Plaid Cymru