Llythyr at Llafur

gan Alun Cox AS    


Fel Aelod newydd o'r Senedd, rwy'n i'w chael hi'n hynod ddiddorol gweld sut mae’r gwahanol bersonoliaethau a rhyngberthnasau grŵp yn datblygu yn y Siambr. Ar y cyfan, mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol. 


Roedd dydd Mawrth yn wahanol. 

 

Roedd penderfyniad y Blaid Lafur i beidio â chefnogi'r Gyllideb Atodol wedi fy atgoffa’n gryf o fy nghyfnod fel cynghorydd yn Rhondda Cynon Taf. 
Gall y Blaid Lafur – ar ei gorau – fod yn rym er gwell. Gall ymgyrchu dros bobl sy'n cael trafferth dod â dau ben llinyn ynghyd; gall gyd-sefyll gydag aelodau undebau llafur; a gall fod yn rym blaengar. Yn anffodus, gall hefyd fod yn gorff llwythol iawn, gydag agwedd "Llafur yn dda, Plaid yn ddrwg". Gwelwn hyn drwy gydol ei hamser fel plaid lywodraethol Cymru, yn gwrthwynebu cynigion gan y Blaid ar faterion y mae'n eu cefnogi'n gyffredinol, e.e. Prydau Ysgol am Ddim, Lwfans Tanwydd Gaeaf neu Ddatganoli Cyfiawnder, ac ati.


Daw penderfyniad Llafur i bleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol ar ddydd Mawrth gwta wythnos ar ôl iddi ochri gyda Reform i bleidleisio yn erbyn cynnig ar gyllid teg i Gymru. Dyma gynnig, o’i drafod yn y Senedd ddiwethaf, y byddai Llafur nid yn unig wedi'i gefnogi ond y gallai fod wedi'i gynnig ei hun. Roedd yn rhyfedd ar y naw, felly, iddi bleidleisio yn erbyn y cynnig hwnnw. Mae’n bosibl mai’r hyn ryn ni’n ei weld yw rhagflas o strategaeth Llafur.


Felly, pan ofynnodd Ken Skates, Arweinydd dros dro Llafur, am £100 miliwn ar gyfer cyllid ADY, a oedd e’n bod yn flaengar neu a oedd e’n chwarae gêm wleidyddol?


Cyllideb Atodol


Er mwyn penderfynu hyn, mae angen i ni edrych ar gefndir y pwnc.
Mae Cymru'n cael ei hariannu mewn modd rhyfedd iawn, sydd fel arfer yn golygu llai o arian o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU. Ond yn yr achos penodol hwn, mae wedi gweithio o'n plaid. Yn Lloegr, roedd awdurdodau lleol wedi cronni dyledion mawr er mwyn ariannu addysg ADY. Mae llywodraeth y DU wedi penderfynu rhoi arian i awdurdodau lleol i dalu'r dyledion hyn. Yng Nghymru, lle nad oedd unrhyw ddyled, mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn cyllid o £327 miliwn. Mae’r ddadl ynglŷn â beth i'w wneud â'r arian hwn.


Pam Anghenion Dysgu Ychwanegol?


Er nad oes gennym yr un lefel o ddyled ag yn Lloegr, mae dybryd angen diwygio a gwella cyllid addysg ADY yng Nghymru. Fel AS sy’n cynrychioli nifer o gymunedau’r cymoedd,  rwy'n gwybod nad moeth na llinell gyllideb yn unig yw’r ddarpariaeth ADY i lawer o ysgolion y cymoedd—mae'n rhaff achub go iawn. Mae ein hysgolion wedi'u tan-ariannu, mae athrawon wedi'u hymestyn i'r eithaf, ac mae plant ag anghenion cymhleth yn haeddu cefnogaeth uniongyrchol a di-oed, nid addewidion dros dair blynedd.

Felly nid oedd cais Llafur am £100 miliwn, ynddo'i hun, yn beth drwg, ac roedd cynnig terfynol Llywodraeth Cymru o £120 miliwn yn cydnabod hyn. Popeth yn iawn, hyd yn hyn – neu, hyd yn oed, popeth yn flaengar, hyd yn hyn. Yn anffodus, ac ar gost uniongyrchol i rai o'r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, dyma feddylfryd lwythol "Llafur yn dda, Plaid yn ddrwg" yn dod i’r amlwg.

Gallai Ken Skates fod wedi cymryd hyn fel buddugoliaeth ac fel tystiolaeth y bydd Llafur yn gweithio dros y rhai sydd fwyaf mewn angen. Mae ei benderfyniad i bleidleisio yn erbyn y Gyllideb Atodol nid yn unig yn methu teuluoedd ADY, ond mae hefyd yn peryglu pethau eraill fel:

  • £145 miliwn wedi'i glustnodi i dorri amseroedd aros y GIG.
  • £15 miliwn i ymestyn prydau ysgol am ddim.
  • £20 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol.
  • £40 miliwn ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio ysgolion.


Sut mae’n edrych: Ysgwyd Llaw gyda'r Dde


Felly ble nawr am y pedair blynedd nesaf? A ydym ni i gael pedair blynedd o Blaid Lafur sbeitlyd a thraddodiadol lwythol yn rhwystro pob polisi blaengar? 
Drwy bleidleisio gyda Reform a'r Torïaid, mae Llafur mewn perygl o osod ei hun fel plaid unoliaethol, ddirywiol ac asgell dde. Mae llawer o wirionedd yn y dywediad "Chi yw'r cwmni rydych chi'n ei gadw".
Nododd Ken Skates y dylai Plaid fod wedi negodi'n well. Gall hyn fod yn wir, neu beidio - doeddwn i ddim yn yr ystafell, er fy mod i'n ei chael hi'n anodd credu hyn am y cyn-Lywydd a'r hen law seneddol Elin Jones, a arweiniodd drafodaethau Llywodraeth Cymru. Ond mae gweld Llafur yn cyd-sefyll â phleidiau sydd eisiau torri gwasanaethau cyhoeddus Cymru er mwyn sgorio pwyntiau tactegol yn gadael blas chwerw yng nghegau sosialwyr y cymoedd ac, yn bwysicach fyth, yn golygu bod y rhai mwyaf agored i niwed yn colli allan.

Does gen i ddim amheuaeth y bydd Farage a'r Torïaid yn dechrau defnyddio’r golled hon fel arf, gan honni bod "datganoli yn methu" neu na all gwleidyddiaeth flaengar lywodraethu. Mae'r gallu i hyd yn oed roi llais i’r ddadl hon yn ganlyniad i benderfyniad Llafur i wrthwynebu'r Gyllideb Atodol.


Realiti’r 9 Sedd: Gwersi Mai 2026

 

Byddai llawer o bobl yn meddwl bod Plaid wrth eu bodd gyda chwymp Llafur ym mis Mai. Rwy'n sicr yn falch bod Plaid wedi ennill yr etholiad hwnnw mor gynhwysfawr ac rwy’n credu'n gryf nad oedd Llafur yn haeddu parhau mewn llywodraeth. Ond rwyf hefyd yn credu, yn y system etholiadol hon nad sy’n un ‘cyntaf i'r felin’, bod lle i fwy nag un blaid wleidyddol flaengar. Gallai’r blaid honno fod yn Llafur, neu gallai’n hawdd fod y Gwyrddion.

Mae Llafur yn cael trafferth deall y canlyniad ym mis Mai, a dydy hi ddim yn bosibl siarad am bleidlais cyllideb mis Gorffennaf heb siarad am fis Mai. Roedd gostwng i ddim ond naw sedd yn y Senedd yn rhybudd seismig, hanesyddol. Anfonodd etholwyr y cymoedd neges glir: does dim modd cymryd pleidleisiau’r “wal goch” honedig yn ganiatol bellach – mae’r dyddiau hynny ar ben yn swyddogol. Mae’n gamgymeriad angeuol i Lafur yn y Senedd - ac mewn llefydd eraill - gario mlaen i ymddwyn fel pe bai hyn yn ddim ond anhawster bach dibwys.

Pam mae "Llafur yn dda, Plaid yn ddrwg" yn sicr o fethu: mae gweiddi "All Plaid ddim llywodraethu" tra’n gwrthod negodi'n adeiladol yn gwneud i Lafur edrych fel rhwystrwyr llwythol, nid llywodraeth i’r dyfodol. Os yw'n diffinio ei hun yn gyfan gwbl gan yr hyn y mae'n ei wrthwynebu, mae'n ildio'r tir blaengar, datganoledig i’r Blaid ac yn gadael i Reform UK a'r Torïaid ddominyddu gofod yr wrthblaid. Gwers y gall ei dysgu o'r Alban yw na all Llafur gystadlu am bleidleisiau Unoliaethol pan fydd yn erbyn Unoliaethwyr go iawn. Mae'n llwybr i amherthnasedd, ar y gorau, neu’n fwy tebygol i fod yn droednodyn yn hanes datblygiad gwleidyddol Cymru.


Felly ble nawr?


Mae fy nghyngor i Ken Skates yn syml. Mae pleidleiswyr dosbarth gweithiol yn y cymoedd eisiau Plaid Lafur sy'n Gymreig ac yn falch,  yn flaengar, ac wedi ymrwymo'n gadarn i wneud i ddatganoli weithio—nid plaid sy'n edrych fel ei bod yn cymryd gorchmynion o Lundain neu'n chwarae gemau sinigaidd fel San Steffan gyda chyllidebau Cymru.

  • Ond mae gennym amser o hyd. Cyllideb atodol yw hon; mae'r brif gyllideb yn parhau yn ei lle, ac ni fydd y llywodraeth yn cwympo.
  • Does dim dwywaith bod y mater hwn wedi rhoi straen ar y berthynas rhwng y Blaid a Llafur, ond rhaid i'r ddwy blaid ymddwyn fel pleidiau aeddfed, blaengar. Dim ond helpu'r dde unoliaethol fydd llwytholdeb "Llafur yn dda, Plaid yn ddrwg".
  • Mae peth amser bellach cyn i gyllideb 2027 gael ei datblygu, a thros yr haf mae cyfle i adeiladu pontydd, efallai gydag agwedd hirach a mwy pwyllog tuag at drafod, gan arwain at ddyfodol sy'n ymateb i anghenion pobl Cymru.
  • Nid oes gan y cymoedd y fraint o ddewis rhwng system ADY sydd wedi'i hariannu'n llawn a GIG sydd wedi'i ariannu'n briodol. Mae ein cymunedau dybryd angen y ddau  — a dylai pleidiau blaengar fod yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r ddau.