Afan Ogwr Rhondda - Plaid Cymru

Cronfa Ymgyrchu Afan Ogwr Rhondda

Cronfa Ymgyrch Afan Ogwr Rhondda

Yn yr etholiad Seneddol ym mis Mai 2026, mae cyfle gwirioneddol gan Blaid Cymru i ffurfio’r llywodraeth nesaf yng Nghymru, gyda Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog. 

Ryn ni’n gofyn am gyfraniadau misol am yr wyth mis sy’n arwain at ddiwrnod yr etholiad, sef dydd Iau, 7 Mai 2026. 

Gallai dy gyfraniad di olygu’r gwahaniaeth yn Afan Ogwr Rhondda rhwng dau Aelod o’r Senedd i Blaid Cymru, fel y rhagwelir ar hyn o bryd, a thri Aelod o’r Senedd, sy’n bosibiliad gwirioneddol os rhedwn ni’r ymgyrch orau posib.

Mae’r fideo byr iawn hwn yn esbonio popeth

Beth fyddai effaith ymarferol dy gyfraniadau? 

Byddai £1,000 yn ein galluogi i argraffu 10,000 o daflenni A4 dwy ochr, lliw llawn y gellid eu dosbarthu i bob tŷ o Flaenrhondda i Donyrefail. 

Byddai £500 yn prynu pedair baner Plaid Cymru sy’n 3 metr o uchder, ac yn golygu ein bod ni’n amlwg ar y stryd fawr pan fyddwn ni’n cynnal stondinau stryd.

Byddai £100 yn ein galluogi i ddosbarthu taflen A5 dwy ochr, lliw llawn i bob un o’r 3,236 o dai sydd yng Nghwm Garw.

Byddai £50 yn ein galluogi i ddanfon 60 cerdyn post i bleidleiswyr ifanc ledled Afan Ogwr Rhondda, i’w hannog i gefnogi’r Blaid ac annog eu ffrindiau i’n cefnogi hefyd.

Byddai £20 yn talu am bedair siaced ‘hi-vis’ gyda brandio’r Blaid, a fydd yn cadw’n hymgyrchwyr yn ddiogel ac yn weladwy wrth ganfasio. 

Byddai £10 yn ein galluogi i hybu postiad ar Facebook ac Instagram am ddiwrnod i hyd at 6,000 o bobl ym Maglan.

Byddai £5 yn talu am arwydd Plaid Cymru i’w roi tu allan i’r tŷ.

Dewis swm

Donation frequency
£
Talu gyda

Dewisia neu deipia swm

Wedi cadw gwybodaeth dull talu.

Wrth ddefnyddio Apple Pay, mae'n bosib y gweli gyfeiriad at ein proesesydd taliadau, "NationBuilder"
Dy fanylion
Nid oes modd didynnu treth ar gyfraniadau.

O dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), mae'n rhaid i ti fod ar y gofrestr etholiadol yn y DU, ac eithrio Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, er mwyn rhoi mwy na £500.

Os byddi yn rhoi mwy na £2,230 i Etholaeth Plaid Cymru, mae'n ofynnol o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 i ni roi gwybod am rodd o'r fath i'r Comisiwn Etholiadol, a fydd yn cyhoeddi'r ffaith dy fod wedi rhoi dros £2,230. Am fwy o wybodaeth, dos i wefan y Comisiwn Etholiadol.